Fri 13 NovDoors 19:15
Bugail Geifr
Gartholwg Lifelong Learning Centre · Pontypridd
Mae Bara Caws yn Hannar Cant oed! Meddyliwch be’ mae’r Cwmni hynod yma wedi ei roi i ni fel cenedl ar hyd y blynyddoedd. Y difrifoldeb, yr herio, y diddanwch, yr hwyl. Oriau bwy gilydd o ddangos ni ein hunain i ni ein hunain. A sioc yr hunan-adnabyddiaeth yna ambell dro. Sut i ymateb i hyn. Fyny i chi. Ond ymatebwch. Fy ymateb i yw Y Bugail Geifr. Pryddest, dwi wedi ei galw hi. Ar ffurf monolog. Ei hunig bwrpas hi yw talu gwrogaeth ddiflewyn ar dafod i’r Cwmni oddi wrtha i yr wyf wedi cael y fraint o ysgrifennu sawl sioe iddo. Deud Diolch ydy’r unig nod. Ond mewn ffordd sy’n gwneud i ni holi’r cwestiwn: Be’ ydy’ calon theatr? Mae’n gân o fawl i’r theatr hefyd. A chael Dyfan Roberts i actio! Un o dadau’r cwmni. Erbyn hyn i lais actor arbennig y byddai’n sgwennu. Llais Dyfan sy’n hydreiddio hon. Ond hefyd lleisiau eraill sydd wedi cyfrannu i fywyd y Cwmni Mae Y Bugail Geifr yn llawn ysbrydion. Un actor… ond yn drybola o bobol. Aled Jones Williams Dyma ddrama theatr olaf y cawr o ddramodydd Aled Jones Williams sydd wedi bod yn rhan o’r tirlun theatrig yma yng Nghymru ers dros dair degawd. Ei drysor olaf? Anrheg i Theatr Bara Caws wrth iddyn ni ddechrau a...
From £16.50including booking fee
Get tickets (opens the official seller in a new tab)




